Cynulliad Cenedlaethol Cymru

National Assembly for Wales

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Economy, Infrastructure and Skills Committee

Caffael cyhoeddus yn yr economi sylfaenol

Procurement in the foundational economy

EIS(5)PFE(18)

Ymateb gan Cyngor Llyfrau Cymru

Evidence from Welsh Books Council

Ymateb Cyngor Llyfrau Cymru – Medi 2019

Gofynnodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am ein barn ar:

Mae sefydliadau yng Nghymru yn cymryd eu cyfrifoldeb am gaffael o ddifri, ac yn cadw i’r canllawiau a llythyr y ddeddf, ond weithiau ar draul cyflenwyr o Gymru. Mae enghreifftiau lle mae cyrff cyhoeddus yn defnyddio fframweithiau mawr, sydd yn rhedeg dros gyfnod hir, sydd yn cadw rhai cyflenwyr newydd allan o’r farchnad a ddim yn hybu unrhyw gwmnïau newydd neu galluogi cwmnïau i ehangu. Mae’n rhaid cael y balans yn iawn rhwng cael proses sydd yn agored i bawb, ond hefyd, ddim yn broses sydd yn creu gormod o faich biwrocrataidd.

Mae rhai Cynghorau Sir er enghraifft yn rhoi cytundeb llyfrgelloedd i brynu llyfrau wedi mynd i gwmnïau preifat o Loegr. Dylid edrych am system gydweithredol sydd yn helpu siopau annibynnol i gydweithio (gyda help y Cyngor Llyfrau) i gael y cytundebau mawr, hyd yn oed lle nad ydynt yn gallu cystadlu yn ariannol gyda’r cwmnïau mawr.  Mae gan caffael rôl bendant i ddiogelu economi – yn arbennig economi wledig a chynnal y stryd fawr.

Yn yr un modd, mae nifer o ysgolion yn prynu trwy wefannau rhyngwladol, yn bennaf o ran cyfleustra gan nad yw’r pris yn wahanol i brynu o siop lyfrau lleol – yn aml, mae’r siop lyfrau yn rhatach. Nid yw nifer o bryniannau bach gan wefannau rhyngwladol yn cael eu hamlygu ddigon o safbwynt caffael a phe defnid “aggregate” o’r holl bryniannau – byddai yn swm sylweddol o arian cyhoeddus.

Mae’r sector gyhoeddus yn hanfodol i’r economi leol, a dylai pob proses caffael fod yn canolbwyntio ar wariant o Gymru yng Nghymru.

Byddai fframweithiau dros gyfnod llai (e.e. 2-3 mlynedd)– gyda uchafswm mewn faint gellir eu prynu ar fframwaith heb fynd allan i’r farchnad yn caniatáu i ymgeiswyr newydd ddod i’r farchnad. Yn aml, mae fframweithiau yn cael estyniadau o hyd at 5-6 mlynedd, ac felly mae’r nifer o ymgeiswyr sydd yn cael mantais o’r fframwaith yn isel iawn.

Nid oes gan unigolion yng Nghymru yr arian i fuddsoddi mewn arbenigedd tendro, ac felly mae’r cwmnïau mawr yn mynd yn gryfach, a’r cwmnïau bach ddim yn cael cyfle i adeiladu elw i fuddsoddi mewn tendrau pellach.

Mae’n hynod o bwysig fod y nodau statudol a bennwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn cael eu cyflawni. Dylid rhoi mwy o farciau cynaladwyaeth i gwmnïau cynhelid Gymreig gan fod cost trafnidiaeth yn is, a bod gwariant y cwmnïau hyn yn cynnal y sector yn lleol.

Mae hefyd yn bwysig fod yr iaith Gymraeg yn cael ystyried ym mhob tendr corff cyhoeddus, ac nid dim ond iaith y tendr, ond yng ngallu ieithyddol y darparwr i allu cyflawni’r gwaith yn ddwyieithog. Mae cyrff cenedlaethol (DU) yn meddwl eu bod yn gallu addasu cynllun Prydeinig i Gymru heb ystyried dwyieithrwydd a’r pwysigrwydd i ddarparu gwasanaethau dwyieithog.

Mae tuedd i feddwl fod pris penodol yn cael ei roi ar arbenigedd, gyda rhan helaeth o gytundebau gwasanaethau proffesiynol yn dod o du allan i Gymru.  Er mwyn i gwmnïau bach a chanolig allu cystadlu gyda’r cwmnïau cenedlaethol, rhaid iddynt gydweithio a rhaid cael buddsoddiad mewn is-adeiledd sgiliau.

Mae angen edrych ar ffyrdd newydd fod y sector gyhoeddus a’r economi leol yn cydweithio i sicrhau fod gwasanaethau yn parhau er gwaethaf Brexit.

Mae modelau tramor lle mae’r Llywodraeth yn rhan berchen cwmnïau sydd o bwysigrwydd strategol (megis Volkswagen yn yr Almaen). Ni ddylai hyn gael ei weld fel ymyrryd yn y farchnad, ond fod rhai pryniannau o bwysigrwydd economaidd lle na fyddai caffael agored yn fuddiol i’r economi. Dylid manteisio ar opsiynau a gynigir o ffurfio is-gwmnïau masnachol, sydd, dan reolau Teckal yn gallu darparu gwasanaethau lle mae angen strategol ar gyfer y gwasanaethau yma.

Mae’r sector tai â fframweithiau sydd yn cefnogi cwmnïau bach, canolig a mawr, yn ddibynnol ar faint y gwaith, ac mae hyn yn ffordd i sicrhau nad yw’r cwmnïau mawr yn dominyddu’r sector yn llwyr. Rhaid dod o hyd i atebion lle mae caffael yn helpu’r sector gyhoeddus i arbed arian drwy gydweithio.

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn hapus i roi sylwadau pellach i’r Pwyllgor pe byddai o ddefnydd.

Medi 2019